Datganiad Hygyrchedd

Yn ôl i’r dudalen flaenorol

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar y parth crbonline.gov.uk.Nid yw’n berthnasol i gynnwys ar www.gov.uk neu is-barthau service.gov.uk (er enghraifft, www.registertovote.service.gov.uk).

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fe’i cynlluniwyd i gael ei ddefnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn diweddaru’r datganiad pan fydd materion yn cael eu pennu neu pan fyddwn yn disgwyl iddynt gael eu pennu.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Dywedwch wrthym os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol.

Yn eich neges, dylech gynnwys:

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’i dudalen. Cliciwch ’Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.

Gallwch hefyd weld manylion polisi dogfennau hygyrchy sefydliad i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn fformat arall.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni

Gweithdrefn orfodi

Os byddwch yn cysylltu â ni gyda chwyn ac nad ydych yn hapus â’n hymateb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS).

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ’rheoliadau hygyrchedd’).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi ymrwymo i wneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

  1. Peidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
    • Nid oes gan rai tablau mewn cynnwys benawdau rhesi tablau pan fo angen. Mae hyn yn golygu na fydd technolegau cynorthwyol yn darllen y tablau’n gywir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
    • Nid oes gan ddelweddau ar rai tudalennau ddisgrifiadau delweddau addas bob amser. Efallai na fydd defnyddwyr technolegau cynorthwyol yn gallu cyrchu gwybodaeth a gyflëir mewn delweddau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n destun).
    • Mae gan rai tudalennau deitlau dyblyg. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr gyfeirio eu hunain a dod o hyd i’r cynnwys cywir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.2 (Teitl y Dudalen).
    • Nid yw’r newid yn yr iaith ysgrifenedig ddiofyn wedi’i nodi’n gywir ar rai tudalennau. Mae hyn yn golygu na fydd darllenwyr sgrin yn darllen cynnwys yn gywir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.1.2 (Iaith Rhannau).
    • Mae Llywio Cyfieithu wedi’i enwi’n anghyson. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.2.4 (Adnabod Cyson).
    • Does dim modd dod o hyd i rai tudalennau drwy fwy nag un math o lywio. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.5 (Ffyrdd Lluosog).
    • Mae gan rai tudalennau lywio iaith sy’n cael ei osod yn anghyson. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.2.4 (Adnabod Cyson).
    • Mae rhywfaint o gynnwys yn edrych fel penawdau ond nid yw. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr darllennydd sgrin lywio’r dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
    • Mae gan rai tudalennau gyferbynnedd lliw gwael. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.1 (Defnyddio Lliw).
    • Mae llawer o ddogfennau mewn fformatau llai hygyrch, er enghraifft PDF.
    • mae dolenni cyfagos i’r un tudalennau yn golygu nad yw’n hawdd llywio trwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.1 2.1.1 (Bysellfwrdd)
    • ni ellir canfod rhai rheolyddion ffurflenni gan feddalwedd darllenydd sgrin - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth)
    • mae rhai tudalennau’n colli pennawd - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd)
  2. PDFs a dogfennau nad ydynt yn rhai HTML
  3. Nid yw llawer o ddogfennau’n hygyrch mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dewisiadau testun amgen coll a strwythur dogfen coll.

    Gweld polisi dogfennau hygyrchy sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn fformat arall. Os yw mwy nag un sefydliad wedi’i restru, edrychwch ar bolisi dogfennau hygyrch y cyntaf.

  4. Baich anghymesur
  5. Credwn y byddai datrys y problemau hygyrchedd gyda rhywfaint o gynnwys yn anghymesur oherwydd bod datblygiadau sylweddol yn cael eu cynllunio fel rhan o’n strategaeth ar gyfer 2025.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Rydym yn defnyddio Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We V2.1 lefel A a lefel AA i brofi hygyrchedd y gwasanaethau DBS.

Defnyddiwyd dull Methodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth Hygyrchedd y Wefan (WCAG-EM) i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae adrannau ac asiantaethau yn asesu cynnwys sy’n methu â bodloni safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd materion wedi’u trwsio.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 1af Mehefin 2022.