Polisi Cwcis DBS
Yn ôl i’r dudalen flaenorolPolisi cwcis DBS
Diolch am ymweld â gwefan y DBS. Mae’r hysbysiad cwcis hwn yn berthnasol i wefan y DBS lle gallwch chwilio am arweiniad, cofrestru/cyrchu eich cyfrif ar-lein (os oes gennych un), tanysgrifio i’ch tanysgrifiad i’r gwasanaeth diweddaru a’i reoli.
Drwy ddefnyddio gwefan y DBS, rydych yn cydsynio i’n defnydd o gwcis a thechnoleg olrhain arall yn unol â’r hysbysiad hwn. Os nad ydych yn cytuno â’n defnydd o gwcis a thechnoleg olrhain arall fel hyn, dylech osod gosodiadau eich porwr yn unol â hynny neu beidio â defnyddio gwefan y DBS. Os byddwch yn analluogi cwcis a ddefnyddiwn, gall hyn effeithio ar eich profiad defnyddiwr tra ar wefan y DBS.
Wrth ddefnyddio dyfais symudol i gysylltu â’r rhyngrwyd, dylech hefyd gyfeirio at hysbysiad preifatrwydd yr Ap penodol rydych chi’n ei ddefnyddio i ddeall ei arferion casglu data penodol.
- Beth yw cwcis?
- Sut a pham mae DBS yn eu defnyddio?
- Storio a rhannu cwcis
- Pa fath o gwcis y mae DBS yn eu defnyddio?
- Cwcis angenrheidiol
-
Cwcis yw’r rhain sy’n gwbl angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r wefan. Heb y cwcis hyn, ni fydd y wefan hon yn gweithio’n iawn. Felly, nid ydym yn gofyn i chi am eich caniatâd penodol ar gyfer y cwcis hynny. Ar gyfer pob cwci arall, mae angen eich caniatâd gwybodus.
- Cwcis sesiwn
-
Ffeiliau cwcis dros dro yw cwcis sesiwn sy’n cael eu dileu pan ydych yn cau eich porwr. Pan fyddwch yn ailgychwyn eich porwr ac yn mynd yn ôl i’r wefan a greodd y cwci hwnnw, bydd y wefan yn eich trin fel ymwelydd newydd.
- Cwcis Parhaus
-
Cwcis yw’r rhain sydd wedi’u sefydlu i wella ymarferoldeb y wefan.
- Cwcis Dewisol
-
Dim.
- Sut alla i newid fy ngosodiadau cwcis?
- Cwcis Penodol
- Diweddariad am yr Hysbysiad Cyfreithiol
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi’n ymweld â nhw. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.
Gweler isod fanylion am ba wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan gwcis a sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno. I gael rhagor o wybodaeth am y math o ddata a gasglwn, darllenwch ein Polisïau Preifatrwydd.
Mae DBS yn defnyddio cwcis i gael gwell dealltwriaeth o sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Mae cwcis yn ein helpu i deilwra i’ch anghenion personol, er mwyn ein gwneud yn fwy ystyriol o’r defnyddiwr.
Er mwyn galluogi hyn, caiff rhai cwcis eu cymhwyso pan fyddwch yn mynd i mewn i’r wefan. Mae DBS yn cadw’r holl wybodaeth a gesglir o gwcis mewn fformat nad yw’n adnabod personau. Nid yw cwcis DBS sydd wedi’u lleoli ar eich cyfrifiadur yn cadw eich enw na’ch cyfeiriad IP.
Nid ydym yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol (er enghraifft eich enw neu’ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i nodi pwy ydych chi, mae’r cwcis yn ein galluogi i weld ymddygiad ar y wefan i’n helpu i wella’ch profiad. Nid yw’r DBS yn rhannu’r data hwn gyda thrydydd partïon.
Os manteisiwch ar y cyfle i ’rannu’ cynnwys ar-lein DBS gyda ffrindiau drwy rwydweithiau cymdeithasol - fel Facebook a Twitter - efallai y byddwch yn cael cwcis o’r gwefannau hyn. Nid ydym yn rheoli gosodiad y cwcis hyn, felly gwiriwch y gwefannau trydydd parti am fwy o wybodaeth am eu cwcis a sut i’w rheoli.
Defnyddir y mathau canlynol o gwcis ar wefan y DBS
Sicrhewch fod gosodiad eich cyfrifiadur yn adlewyrchu p’un a ydych yn fodlon derbyn cwcis ai peidio. Gallwch osod eich porwr i’ch rhybuddio cyn derbyn cwcis, neu gallwch ei osod i’w gwrthod, er efallai na fydd gennych fynediad i holl nodweddion y wefan os gwnewch hynny.
Gwelwch fotwm ‘help’ eich porwr i ganfod sut y gallwch chi wneud hyn. Cofiwch, os ydych chi’n defnyddio gwahanol gyfrifiaduron mewn gwahanol leoliadau, bydd angen i chi sicrhau bod pob porwr yn cael ei addasu i weddu i’ch dewisiadau cwcis.
I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd ynghylch cwcis, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
I gael gwybodaeth ddefnyddiol am gwcis, ewch i aboutcookies.org. Bydd y rhain yn agor mewn ffenest newydd, nodwch na allwn ni fod yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Enw | Diben | Yn dod i ben |
---|---|---|
BIGipServerCRB-XML-Pool | Effeithlonrwydd llywio’r safle yn gyffredinol | Sesiwn(Cau’r Porwr) Yn barhaus |
BIGipServerCRB-Web-Pool | Effeithlonrwydd llywio’r safle yn gyffredinol | Sesiwn (Cau’r Porwr) Yn barhaus |
JSESSIONID | Wedi’i ddefnyddio i gysylltu sesiwn bori gyda sesiwn yr ap | Sesiwn (Cau’r Porwr) Angenrheidiol |
Rydym yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau a chywiriadau i’r hysbysiad hwn. Cyfeiriwch at y dudalen hon o bryd i’w gilydd i adolygu’r rhain a gwybodaeth ychwanegol newydd.