Telerau ac Amodau
Yn ôl i’r dudalen flaenorolTelerau ac Amodau
Mae’r gwasanaeth diweddaru yn benodol ar gyfer ymgeiswyr unigol i danysgrifio iddo. Ni ddylai ymgeiswyr rannu eu rhif ID tanysgrifiad ag unrhyw un arall. Mae hyn oherwydd y bydd unrhyw un sydd â mynediad at y rhif hwn yn gallu gweld statws tystysgrifau’r ymgeisydd a diwygio manylion cyswllt yr ymgeisydd heb wybod iddynt a heb eu caniatâd.
Os nad yw’r cyfeiriad e-bost neu unrhyw wybodaeth arall a gynhwysir yn y tanysgrifiad yn perthyn i’r ymgeisydd, yna mae’n rhaid iddynt ddiweddaru’r wybodaeth hon gyda’u manylion eu hunain. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gynnwys cyfeiriad e-bost unigryw sy’n perthyn iddynt hwy yn unig ac nad yw’n hygyrch i unrhyw berson arall.
Drwy danysgrifio i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir i barhau i nodi enghreifftiau paru posibl â’ch cofnodion a gedwir gan y llywodraeth a chyrff gorfodi’r gyfraith. Pan fydd y DBS yn derbyn cais dilys i roi diweddariad ar statws eich Tystysgrif DBS bydd yn darparu ymateb i’r ceisydd a bydd eich Tanysgrifiad yn cael ei ddiweddaru. Er mwyn i drydydd parti wneud cais am ddiweddariad i statws eich Tystysgrif bydd angen i chi roi rhif eich Tystysgrif, Dyddiad Geni, Cyfenw, a’ch caniatâd i wneud y gwiriad. Unwaith y byddwch wedi darparu’ch manylion a chaniatâd i drydydd parti gyrchu’ch diweddariadau statws ni allwch ddileu’r mynediad hwnnw, ond gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl yn uniongyrchol gyda nhw. I dynnu mynediad i drydydd parti penodol bydd angen i chi dynnu’r Dystysgrif DBS o’ch tanysgrifiad. Gallwch gyflwyno Cais newydd am wiriad ac ychwanegu’r Dystysgrif DBS newydd at eich tanysgrifiad i alluogi trydydd partïon eraill i barhau i gyrchu’ch diweddariadau statws.
Hysbysiad Prosesu Teg
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyfeirio’r manylion a ddarperir i’r llywodraeth a chyrff gorfodi’r gyfraith yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd y manylion a ddarperir i’r cyrff hyn yn cael eu defnyddio i ganfod cofnodion posibl sy’n cyfateb i gofnodion a ddelir ganddynt.
Os bydd cofnod cyfatebol yn cael ei ganfod, gellir rhyddhau data i’r DBS er mwyn ei gynnwys ar unrhyw dystysgrif a gyhoeddir. Gellir defnyddio’r manylion a ddaw i law i ddiweddaru’r cofnodion a ddelir gan y cyrff a nodir uchod.
Gall y DBS ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir iddo ar dystysgrif neu fel arall a ddelir gan y DBS i lywio unrhyw un o’i benderfyniadau gwahardd a wneir o dan ei bwerau yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
